Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2018
Amser:
09.03 -
09.39
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Matthew Mortlock Nick Selwyn |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Vicki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwyon.
2.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.
3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.
4.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y Rhaglen Cefnogi Pobl.
4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o ymatebion i argymhellion yr Adroddiad.
5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a’i nodi.
6.1 Trafododd yr Aelodau y cylch gorchwyl drafft ar gyfer y grŵp rapporteur Heriau Digideiddio, a chytunodd arno.